GWNEUD SAFIAD
Yn 2021 mae pobl ifanc yn codi eu llais yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, gan ofyn i arweinwyr byd roi pobl a’r blaned o flaen elw, gan gyfyngu’r cynnydd mewn tymereddau byd-eang i 1.5℃.
LLOFNODI LLYTHYR AGOREDCymryd rhan
Defnyddiwch eich llais
Llofnodwch y llythyr agored ar y ffurflen isod a galw ar arweinwyr y byd i ddod â’r argyfwng hinsawdd i ben.
Defnyddiwch eich platfform
Dilynwch @WeAreTearfund ar Instagram a defnyddio’ch platfform ar y cyfryngau cymdeithasol i annog eraill i ymuno.
Ym mis Tachwedd eleni, bydd arweinwyr byd o bron 200 o wledydd yn dod i’r Deyrnas Unedig i sôn am newid hinsawdd, mewn cyfarfodydd o’r enw COP26. Mae hwn yn gam hollbwysig yn ein brwydr i atal yr argyfwng hinsawdd.
Ar hyn o bryd, mae arweinwyr byd yn syrthio’n brin iawn o darged pwysig – cyfyngu’r cynnydd mewn tymereddau byd-eang i 1.5℃.
Os na lwyddir i wneud hyn, gallai gael effaith gatastroffig – a’r bobl sy’n byw mewn tlodi fyddai’n dioddef fwyaf. Mae’n bryd gwneud safiad a rhoi pobl a’r blaned o flaen elw.
Rydym ni’n dilyn galwad Iesu ar i ni sefyll gyda’n cymdogion ym mhob rhan o’r byd a helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Mae pobl ifanc ym mhedwar ban byd yn gwneud safiad a gallwch chi ychwanegu’ch llais chi. Fe aethom â’n neges i Gernyw ac fe awn â hi i Glasgow, gan alw ar ein harweinwyr i gywiro’r sefyllfa ac ailymrwymo i 1.5°C.
Mewn partneriaeth â
PAM 1.5?
Rydym yn syrthio’n brin o’r nod o gyfyngu ar y cynnydd mewn tymereddau byd-eang i 1.5°C. Os na chyrhaeddwn y nod a bod tymereddau’n codi 2°C, pobl sy’n byw mewn tlodi fydd yn dioddef fwyaf.
Mae cynnydd o 1.5°C yn ddigon drwg ond mae’r gwahaniaeth rhwng 1.5°C a 2°C yn drychinebus:
- Cyfnodau o sychder yn para ddwywaith mor hir
- 116 miliwn yn fwy o bobl yn cael anhawster cael dŵr
- Pedair gwaith gynifer o seiclonau trofannol
- 12 miliwn yn fwy o bobl yn dioddef llifogydd ar arfodiroedd
(ffynhonnell: carbonbrief.org)
ANNWYL ARWEINWYR BYD
Mae ein byd mewn argyfwng, mae’n bryd gwneud safiad.
Rydym ni yn un: un byd, un greadigaeth, un ddynoliaeth. Mae ein planed yn stryffaglio ac mae pobl yn dioddef, ac felly tra byddwch chi draw yma’n trafod, mae angen i chi weithredu.
Pan fydd tymereddau’n codi hyd yn oed ran o radd, mae corwyntoedd yn cryfhau, cyfnodau o sychder yn para’n hirach, coedwigoedd yn llosgi ac ynysoedd cyfan yn diflannu i’r môr. A’r bobl sydd wedi gwneud leiaf i achosi’r argyfwng hinsawdd – pobl sydd eisoes yn byw mewn tlodi – sydd eisoes yn dioddef yr effeithiau gwaethaf.
Mae Duw yn gofyn i ni, Gristnogion, garu ein cymdogion – pell ac agos – ond trwy beidio â gweithredu, rydych chi’n peryglu eu bywydau nhw. Heddiw, rydym yn cyrraedd man di-droi-nôl. Fe ALLWN ni atal hyn, ond ar ôl degawdau o addewidion nid yw’r camau angenrheidiol yn cael eu cymryd. Pan fydd angen gweithredu, caiff elw ei ddewis o flaen pobl a’r blaned yn rhy aml.
Arweinwyr y Byd, mae’r grym gennych chi i’n harwain at ddyfodol gwell. Mae arnom ni angen i chi wneud eich gorau glas i gyfyngu’r cynhesu i ddim mwy nag 1.5°C, â gweithredoedd, nid geiriau yn unig.
Mae hyn yn golygu:
- rhoi’r gorau i ariannu cynlluniau tanwyddau ffosil ym mhedwar ban byd
- gostwng allyriadau i sero cyn gynted ag y bo modd
- darparu cyllid a chefnogaeth i bobl sy’n byw mewn tlodi wrth iddyn nhw addasu i newidiadau yr ydym yn rhy hwyr i’w hatal yn yr hinsawdd.
Cydsafwn â’n cymdogion byd-eang sydd â’u bywydau yn dibynnu, yn llythrennol, ar gadw’r cynnydd i 1.5°C. Gofynnwn i chi weithredu gyda ni: cenhedlaeth ifanc yn gwneud safiad gyda’n cymuned fyd-eang.
What next? Take A Stand in Prayer using this downloadable guide
Download NowOr share this video on social media to help spread the word
Share Video